Mae enillydd Cadair Eisteddfod yr Urdd wedi galw ei gasgliad o gerddi buddugol yn “faniffesto”.

‘Cywilydd’ oedd testun y gystadleuaeth, ac aeth darn Iestyn Tyne i’r afael â sawl pwnc gan gynnwys difaterwch, a thriniaeth dyn o’r amgylchedd.

 hithau’n oes Brexit, Donald Trump, cyni ariannol ac argyfyngau hinsawdd; mae’r bardd buddugol yn ystyried Saith yn alwad i’r gad.  

“Mewn ffordd fy maniffesto, neu fy athroniaeth i ydy’r cerddi yma,” meddai wrth golwg360. “… Mae’ r holl bethau yma sydd yn rhwystredig am y ffordd mae pethau yn gweithio yn y byd.

“Mae cymaint o afael o’r top ar y ffordd mae pobol yn byw eu bywydau. Ac mae’r anobaith mae rhywun yn teimlo o’r gwaelod.

“Esgob, dydyn ni methu newid pethau. A’r apathi, sydd yn ein trechu ni o hyd.”

“Pwyntiau bwled”

Mae’r cerddi yn cynnig “beirniadaeth ddamniol” o’r sefyllfa sydd ohoni, meddai, cyn cynnig blas o’i broffwydoliaeth.

“Yr hyn sy’n mynd i’n lladd ni yw’n apathi ni, ac nid rhyw ddigwyddiad mawr sydd yn mynd i [wthio] ni drosodd i’r point of no return,” meddai.

“Mae rhywbeth bach yn mynd i ddigwydd. Ac mae gymaint o apathi, fydd neb yn sylweddoli ei fod o wedi digwydd. Felly roeddwn yn trio cyfleu hynna.

“Mi allwch ddweud bod [y cerddi] yn negyddol, ond dw i’n gobeithio bod her ynddyn nhw hefyd. Dyna ydy’r peth positif am y cerddi yma.

“Gobeithio byddan nhw’n her hefyd. Rhyw bwyntiau bwled o faniffesto. [Maniffesto sy’n nodi:] ‘Dyma sydd angen i ni newid’.”

Yr amgylchedd

Mae Iestyn Tyne yn pwysleisio bod ei gerddi yn trafod “dynoliaeth gyfan” – nid y Cymry yn unig – ac mae’n cydnabod bod cysgod yr hinsawdd dros y gwaith.

“Yn gefnlen i’r cyfan mae’r argyfwng hinsawdd sydd wedi bod yn gymaint o destun trafod yn ddiweddar,” meddai.

“Digwydd bod roedd y cyhoeddiad am yr argyfwng – a’r streics – ddim wedi digwydd pan oeddwn i’n anfon y cerddi i mewn.

“Ond mae’n amlwg yn destun trafod ac yn bryder i ni a llawer o bobol. Ac mae hynna drwy’r cerddi i gyd.”

Gallwch wylio fideo o Iestyn Tyne isod: