Iestyn Tyne yw enillydd cadair Eisteddfod yr Urdd Caerdydd a’r Fro 2019, a’r cyntaf erioed i ennill coron a chadair yr Urdd.
Ef yw un o sefydlwyr cylchgrawn Stamp, mae’n aelod o fandiau Patrobas a Pendevig, ac fe enillodd y goron yn Eisteddfod yr Urdd y Fflint 2016.
Hyd yma, mae dwy gyfrol o’i farddoniaeth wedi cael eu cyhoeddi, ac ef yw curadur gwefan Casglu’r Cadeiriau – casgliad ar lein o gadeiriau barddol.
Mae Iestyn Tyne yn dod o Ben Llŷn yn wreiddiol, ond bellach yn byw yng Nghaernarfon, lle mae’n rhannu ei amser rhwng cyfieithu a gweithio’n llawrydd fel bardd, awdur, golygydd a cherddor.
Y dilyniant buddugol
Elinor Wyn Reynolds ac Osian Rhys Jones yw beirniaid cystadleuaeth y Gadair eleni, ac roedd yna bymtheg ymgeisydd i gyd.
Roedd y dilyniant buddugol yn mynd i’r afael ag ymdriniaeth dyn o’r amgylchedd, cywilydd personol, cywilydd am ryfela, ynghyd â difaterwch a chywilydd am drais domestig.
“Mae’r gyfres hon o gerddi’n feistrolgar, yn athronyddol, yn ddiwinyddol, mae’n chwarae gyda’r ymennydd dro ar ôl tro, yn ei ffrwydro hyd yn oed,” meddai Elinor Wyn Reynolds.
“Mae’r cerddi’n llachar, yn pefrio, teimlodd fel petai wedi dod o nunlle, mae’n gyfres mor wahanol i’r lleill – dyma sy’n ei chodi uwchlaw’r lleill yn y gystadleuaeth.”