Mae Heddlu’r De yn apelio am dystion ar ôl i ddyn gael ei anafu’n ddifrifol mewn gwrthdrawiad ger Castell-nedd.

Tarodd ei gar Peugeot 207 i mewn i bont gerrig yn ardal Creunant am oddeutu 12.50 fore heddiw (dydd Mercher, Mai 29), ac fe gafodd ei gludo i’r ysbyty mewn cyflwr difrifol.

Bu’n rhaid cau’r ffordd am chwech awr wrth i’r heddlu gynnal ymchwiliad cychwynnol.

Maen nhw’n awyddus i glywed gan unrhyw un welodd y digwyddiad neu a gafodd ddeunydd fideo ohono.