Mae deddfwriaeth a allai arwain y ffordd at ail refferendwm annibyniaeth yn yr Alan, wedi cael ei chyhoeddi yn Holyrood.

Mae’r Prif Weinidog Nicola Sturgeon yn dweud y gallai’r Bil Refferenda (Yr Alban) roi “cyfle i bobol yr Alban ddewis gwell dyfodol”.

Dydi’r ddeddf ddim yn nodi dyddiad nac amserlen ar gyfer cynnal ail refferendwm posib.

Mae llywodraeth yr Alban yn dweud fod yr hyn sy’n digwydd yn San Steffan yn rhoi’r hawl i Holyrood cynnal ail bleidlais dan orchymyn Adran 30 – rhywbeth y gwrthododd Theresa May ei wneud dro ar ôl tro.