Bu farw cyn-brif weinidog Jamaica, Edward Seaga. Roedd yn 89 oed, ac yn cael ei weld fel y gwleidydd a aiapiodd fywyd y wlad yn dilyn annibyniaeth.
Mae marwolaeth Edward Seaga wedi’i chyhoeddi ar wefan gymdeithasol Twitter gan brif weinidog presennol Jamaica, Andrew Holness.
Fe fu Edward Seaga yn y brif swydd rhwng 1980 a 1989, ac ef oedd yr unig un arôl o’r genhedlaeth honno o arweinwyr a luniodd gyfansoddiar y wlad wedi i’r ynys yn y Caribî ennill annibyniaeth gan Brydain yn 1962.
Fe ddechreuodd ar ei yrfa wleidyddol yn y 1950au, pan ennillodd sedd seneddol West Kingston, ac fe fu’n cynrychioli’r ardal yn ddi-dor am 40 mlynedd.