Mae byddin Myanmar (Burma) yn cyflawni troseddau rhyfel ac erchyllterau eraill yn nhalaith orllewinol Rakhine, yn ôl mudiad Amnest Rhyngwladol.

Mae’r fyddin yn cael ei chyhuddo eisoes o erlid lleiafrifoedd Mwslimaidd y Rohingya ddwy flynedd yn ôl, ond mae Amnest bellach yn dweud fod milwyr y wlad “wedi lladd pobol gyffredin mewn ymosodiadau creulon ers Ionawr 2019”.

Mae byddin Myanmar yn brwydro’r fyddin Arakan, gwrthryfelwyr o grwp ethnig Bwdaidd sydd am weld Rakhine yn ennill hunanlywodraeth.

Ond mae Amnest yn cyhuddo byddin Myanwar o gyflawni “dienyddiadau y tu hwnt i’r gyfraith, arestio pobol heb barchu eu hawliau dynol, arteithio, yn ogystal â cham-drin pobol gyffredin”.

Ar y llaw arall, mae gwrthryfelwyr Arakan hefyd wedi cyflawni troseddau annynol yn erbyn pobol gyffredin. yn cynnwys herwgipio, meddai adroddiad Amnest Rhyngwladol, “er eu bod ar raddfa lai na gweithredoedd byddin Myanmar”.