Mae storm filain wedi taro ardal Kansas City yn yr Unol Daleithiau, gan lorio coed a cheblau trydan, ac anafu beth bynnag ddwsin o bobol.

Mae rhannau o Pennsylvania a New Jersey hefyd wedi’u taro gan y tywydd gwael, ac mae rhybuddion corwyntoedd yn y rhan honno o America, wrth i dai gael eu difrodi yn Indiana ac Ohio neithiwr (nos Fawrth, Mai 28).

Mae un person wedi’i ladd, ac o leiaf 130 wedi cael eu hanafu.

Mae rhagolygon yn dweud y gallai hyd at 55 o gorwyntoedd daro wyth o daleithiau America dros y dyddiau nesaf.