Mae cyn-Ynad Heddwch, yn dweud mai achos llofruddiaeth April Jones yn 2012 mai wynebu llofrudd April Jones oedd y profiad “anoddaf” iddi orfod delio ag ef yn ystod yr ugain mlynedd y bu hi yn y swydd.
Fe ddiflannodd y ferch, 5, o’i chartref ym Machynlleth ar ddechrau mis Hydref 2012, ac fe daeth i’r amlwg yn ddiweddarach bod Mark Bridger wedi ei chipio a’i lladd.
Pan ymddangosodd y llofrudd gerbron Llys Ynadon Aberystwyth ar Hydref 8, mae Beti Griffiths, a oedd ar fainc yr ynadon ar y pryd, yn cofio’r tensiwn oedd yn y llys y diwrnod hwnnw.
“Er mai dim ond pasio trwyddo yr oedd e o safbwynt y fainc, roedd e’n brofiad dirdynnol,” meddai Beti Griffiths o Lanilar wrth golwg360.
“Roedd yr achos i fod yn Llys Aberystwyth am ddeg o’r gloch, ond oherwydd bod yr achos yma yn mynd i ddenu’r paparazzi a’r dyrfa y tu allan, fe benderfynodd yr heddlu swyddogion y llys ynadon i gael gwrandawiad ynghynt yn y bore.
“Yn y diwedd, ro’n i’n dechrau am wyth o’r gloch, ac roedd y dyrfa y tu allan yn disgwyl amdano fe ac roedd y llys yn orlawn…
“Dw i’n ei gofio o hyd y tu ôl i’r gwydyr yn y llys a meddwl: ‘dim o fe sy’n gwybod yn y pen draw.”
Y ddynes aml-swydd
Mae Beti Griffiths newydd gyhoeddi ei hunangofiant, Rho imi Nerth, ac mae’r gyn-athrawes a’r bregethwraig yn dweud bod pobol ifanc wedi bod yn bwysig iddi erioed.
Mae ffydd yn ganolog i’w bywyd hefyd, ac mae’n credu bod angen gwneud mwy i sicrhau cyswllt rhwng pobol ifanc a chapeli – hyd yn oed yn oed os yw hynny’n golygu ‘addasu’, meddai.
“Yn Rhyd-lwyd yn Lledrod y llynedd, fe ddaeth y Ffermwyr Ifanc i ofyn a fydden nhw’n cael defnyddio’r capel i gynnal oedfa ddiolchgarwch…” meddai. “Ond dyma benderfynu pam na allwn ni uno fel capel a chael un oedfa rhwng y capel a’r Ffermwyr Ifanc.
“Roedd hi’n oedfa gofiadwy, a dyna’r tro cyntaf i fi glywed gweinidog yn cymharu Gŵyl y Pebyll i bentref y Ffermwyr Ifanc yn y Royal Welsh.
“Dyna’r ffordd i gael y bobol ifanc ar yr un donfedd.”
Dyma glip o Beti Griffiths yn darllen rhan o Rho imi Nerth…