“Does ‘na ddim geiriau, mae’n rili anhygoel, dw i mor hapus,” yw’r ffordd mae Francesca Elena Sciarrillo – enillydd Medal y Dysgwyr Eisteddfod yr Urdd 2019, yn disgrifio ei theimladau.
Mae’r Eidales o’r Wyddgrug yn siarad tafodiaith Eidaleg gyda’i rhieni ond “yn well yn y Gymraeg” erbyn hyn, meddai wrth golwg360.
Yn ôl hithau mae bod o dras ieithyddol Eidaleg wedi ein helpu gyda sut mae ynganu geiriau.
“Mae’n helpu, ond mae’n weird achos adref dwi’n teimlo’n fel dwi’n rhan o ddiwylliant Eidaleg ond ar ddiwrnodau fel hyn dwi’n rhan o ddiwylliant Cymraeg ac mae’n teimlo’n anhygoel.”
Teimlo fel Cymraes
“Dwi’n byw yng Nghymru… dyma be dwi’n teimlo fel achos yng Nghymru ’da ni mor lwcus i gael diwylliant fel hyn,” meddai wedyn.
“Mae’n rili pwysig i siarad Cymraeg ac i gadw’r iaith i fynd.”
Mae dysgu’r Gymraeg wedi agor drysau iddi fel mynd i’r Brifysgol, yn ei swydd fel llyfrgellydd, gyda ffrindiau a gyda’i chariad.
Harri Evans, 23, o Gaernarfon yw ei chariad – daeth y ddau i nabod ei gilydd ym Mhrifysgol Bangor.
“Mae fy nghariad dwi’n caru wedi fy helpu, mae’n helpu fi lot – ac mae ei deulu fo yn anhygoel,” meddai Francesca Elena Sciarrillo.
“Dwi’n teimlo mor lwcus achos mae cymuned pobol Cymraeg jest mor lyfli.”