Mae aelodau o Gymdeithas yr Iaith yn cwyno fod Llys Ynadon wedi methu a darparu gwasanaeth Cymraeg wrth ofyn am bres dirwy.
Roedd Ffred Ffransis a’i wraig Meinir wedi gwrthod talu am drwydded teledu fel rhan o ymgyrch Cymdeithas yr Iaith i ddatganoli darlledu.
O ganlyniad, aeth Llys Ynadon Gwent a De Cymru ar eu holau i dalu dirwy.
Fodd bynnag, defnyddiodd y llys gwmni gorfodi preifat i fynd ar ôl dirwy’r teulu Ffransis am y trydydd tro wnaeth gynnig gwasanaeth uniaith Saesneg.
“Hollti blew”
Fe wrthododd Ffred a Meinir Ffransis dirwy a chostau hyd at £370 gan y llys ym mis Gorffennaf 2018 am beidio talu’r drwydded teledu.
Cafodd y mater ei drosglwyddo i Swyddfa Gorfodi Cymru ym Mhort Talbort wnaeth anfon hysbysiad gyda chostau ychwanegol ym mis Ionawr eleni – gwrthododd y ddau eto.
Dydd Llun (Mai 20) aeth cynrychiolydd o gwmni preifat Excel Bae Colwyn i’w cartref gan fynnu taliad £680 yn syth gyda gwaith papur uniaith Saesneg.
Ar ôl gwrthod talu, dywedodd y swyddog mai “hollti blew oedd mynnu ffurflen Gymraeg” cyn mynnu cael taliad heb wasanaeth Cymraeg ar ôl rhoi clamp ar gar tu allan i swyddfa.
“Anhygoel o hen-ffasiwn”
“Yn y diwedd, teimlo ‘wnes i fod yn rhaid talu gan fod y swyddog am fynd i ffwrdd â char a oedd yn perthyn i rywun arall,” meddai Meinir Ffransis.
“Mae’r agwedd ein bod yn colli’r hawl i ddefnyddio’r Gymraeg wrth fedru siarad Saesneg yn anhygoel o hen-ffasiwn.
“Rydym hefyd yn cwyno wrth Eluned Morgan yr Aelod o’r Cabinet sydd â chyfrifoldeb am y Gymraeg fod llysoedd barn yn gallu ymwadu â’u cyfrifoldeb dros ddarparu gwasanaeth.”