Fe fydd Brexit Party Nigel Farage yn galw am le ar fwrdd trafod yr Undeb Ewropeaidd os yw’r blaid yn llwyddiannus yn etholiadau Ewrop wythnos yma.
Wrth siarad mewn rali yn Kensington, Llundain, dywed Nigel Farage os yw ei blaid ar frig y canlyniadau “fe fydd rhaid i gynrychiolwyr ymuno a dim trafod yr Undeb Ewropeaidd”.
Yn ôl cyn arweinydd UKIP, fe fyddai buddugoliaeth i’r Brexit Party yn cael effaith ar arweinyddiaeth prif bleidiau San Steffan.
Ar hyn o bryd y Brexit Party sydd ar frig yr arolygon barn o flaen y bleidlais fory (Dydd Iau, Mai 23) gyda 34% o’r bleidlais.
Fe roddodd Nigel Farage sylw ar ymchwil y Comisiwn Etholiadol i amheuon ynghylch noddwyr y blaid hefyd.
“Ar ôl saith awr, nid yw’r Comisiwn Etholiadol wedi dod o hyd i un sydd wedi’i gam-drin gan y Blaid Brexit,” meddai.
“Gadewch i mi wneud yn glir. Daw ein harian o’r symudiad torfol cynyddol hwn o bobl.”