Mae Gweinidog Brexit Cymru wedi condemnio penderfyniad Prif Weinidog y Deyrnas Unedig i ofyn i aelodau seneddol bleidleisio eto ar ei bargen Brexit.
Mae gwneud hynny’n tanseilio’r trafodaethau rhwng y Ceidwadwyr a Llafur i geisio cael cytuneb, meddai Jeremy Miles, sydd hefyd yn Gwnsler Cyffredinol i’r Llywodraeth Lafur yng Nghymru ac yn cyfarfod â Gweinidog Brexit San Steffan heddiw.
Mae hefyd wedi galw am gynnwys y llywodraethau datganoledig mewn trafodaethau ynglŷn â’r dyfodol.
“Consensws go iawn”
“Mae gosod terfyn amser ar gyfer pleidlais newydd heb gonsensws rhwng y pleidiau yn mynd yn groes i holl bwrpas [y trafodaethau],” meddai Jeremy Miles.
“Dylai Prif Weinidog y Deyrnas Unedig ganolbwyntio ar adeiladu cefnogaeth drawsbleidiol go iawn,”
“Hyd yma mae’r Prif Weinidog wedi llesteirio’r trafodaethau a chreu sefyllfa lle mae’r Senedd yn methu’n lân â chytuno.”
Rhaid i ni ddod i gyfaddawd er mwyn symud ymlaen a dod o hyd i ffordd o ymadael â’r Undeb Ewropeaidd sy’n medru pasio drwy’r Senedd.”
“Llais i Lywodraeth Cymru”
Yn y cyfarfod heddiw fe fydd Jeremy Miles yn ceisio sicrhau eto bod y llywodraethau datganoledig, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, yn rhan o’r trafodaethau.
“Rhaid i ni weld newid radical yn agwedd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ystod cam nesaf y trafodaethau,” meddai’r Cwnsler Cyffredinol.
“Rhaid gwneud penderfyniadau ar y cyd – mae’n hen bryd i Whitehall dderbyn bod datganoli yn golygu partneriaeth wrth lywodraethu’r Deyrnas Unedig.”