Mae’r Prif Weinidog, Theresa May, yn cwrdd ag arweinwyr Ceidwadwyr mainc gefn yn Nhŷ’’r Cyffredin heddiw wrth i’r pwysau gynyddu arni gyhoeddi amserlen ar gyfer gadael y swydd.
Fe fydd hi’n cwrdd â swyddogion Pwyllgor 1922 yr aelodau mainc gefn, sy’n ystyried newid rheolau’r blaid er mwyn caniatáu i rywun ei herio hi am yr arweinyddiaeth.
Fe ddywedodd Trysorydd y pwyllgor y bydden nhw’n hoffi i Theresa May ei hun gynnig amserlen yn hytrach na gorfodi amserlen arni.
Pwysau’n cynyddu
Yr wythnos yma, fe gyhoeddodd y Prif Weinidog y bydd hi’n gofyn i ASau am y pedwerydd tro i gefnogi ei chynllun hi ar gyfer gadael yr Undeb Ewropeaidd – os bydd hynny’n methu, fe allai gael ei gorfodi i fynd.
Ar hyn o bryd, does gan neb hawl i herio Theresa May am arweinyddiaeth y Blaid Geidwadol tan ddiwedd y flwyddyn – am fod un ymgais eisoes wedi methu eleni – ond fe allai’r pwyllgor benderfynu newid hynny.
Mae nifer o Frexitwyr amlwg wedi galw arni i fynd ac mae disgwyl y byddai canlyniadau trychinebus i’r Ceidwadwyr yn Etholiadau Ewrop yn cryfhau’r galwadau hynny.