“Mae pawb yn rhan o Ŵyl Fwyd Caernarfon” ydi neges un o’r trefnwyr, yn dilyn awgrym mai’r ŵyl ddoe (dydd Sadwrn, Mai 11) yw’r fwyaf i’w chynnal yn y dref eto.
Yn ôl adroddiadau, roedd hyd at 44,000 o bobol yn y bedwaredd ŵyl, sy’n parhau i fynd o nerth i nerth a phe bai hynny’n wir, fe fyddai’n torri record ar gyfer y niferoedd.
“Rydan ni’n disgwyl am wybodaeth o wi-fi y dre’ fydd yn gallu deud wrthan ni os ydi hynny’n wir,” meddai Nici Beech wrth golwg360.
“Roeddan ni wedi cychwyn efo gŵyl fach leol, ond rydan ni’n falch iawn fod 80% yn dal i fod yn fusnesau bach, a lot yn fusnesau lleol hefyd.
“Mae’n siŵr fod yr ŵyl ryw bedair gwaith yn fwy erbyn hyn.
“Roedd 150 o stondinau yma, ond mae busnesau’r dre’ yn rhoi stondinau allan hefyd, felly mae pawb yn rhan o’r ŵyl, nid dim ond y stondinwyr.
“O’r adborth gawson ni ar lafar, roedd pawb wedi mwynhau. Roedd nifer wedi cysylltu efo ni i ddweud cymaint roeddan nhw wedi mwynhau.
“Gwirfoddolwyr ydi’r trefnwyr, a dyna sut rydan ni am ei chadw hi.”
Yr arlwy a’r adloniant
Roedd cymysgedd o stondinau bwyd, arddangosfeydd coginio a llwyfannau cerddoriaeth ar y Maes, ar lannau’r Fenai ar y Cei Lechi ac o fewn ac o gwmpas y Castell.
O ran bwyd a diod, roedd dewis eang gan gynnwys cynnyrch Oinc Oink, Caws Rhydydelyn, Antur Waunfawr, gin Aber Falls, Amore Pizza a Môn ar Lwy.
Yn ogystal, roedd chwe llwyfan cerddoriaeth – Llwyfan Radio Cymru, Llwyfan y Maes, Llwyfan Bar Bach, Llwyfan y Castell a Llwyfan Anglesey Arms.
Bu Alffa, Gwilym Bowen Rhys a’r Band, Bwncath, Elidyr Glyn, Plu, Phil Gas, Côr Tenovus a Chôr Meibion Caernarfon yn perfformio o 10yb tan 4.30yp.
Chris ‘Foodgasm’ Roberts
Un o uchafbwyntiau’r ŵyl oedd arddangosfa gan Chris ‘Foodgasm’ Roberts, a’r digwyddiad hwnnw’n fwy poblogaidd nag erioed, meddai Nici Beech.
“Roedd Chris yn y castell unwaith eto eleni, yn coginio ar farbeciw efo’i smoker.
“Roedd o’n coginio gyddfau oen yn y bore.
“Wnaeth y castell dorri record am niferoedd yn y fan honno hefyd.”