Mae “coblyn o lot o bobol” yng Ngŵyl Fwyd Caernarfon eleni, yn ôl y trefnwyr.

Ar drothwy’r digwyddiad, roedd disgwyl miloedd o bobol yn y dref, gydag awgrym y gallai dorri’r record eleni.

Ond mae’n rhy gynnar i ddamcaniaethu eto, meddai llefarydd wrth golwg360.

“Fel arfer, mae yna amrywiaeth eang iawn o stondinau, lot fawr o fwydydd Cymreig, ac 80% ohonyn nhw’n lleol.

“Mae hi’n ardderchog yma.”

Yr arlwy

Mae cymysgedd o stondinau bwyd, arddangosfeydd coginio a llwyfannau cerddoriaeth ar y Maes, ar lannau’r Fenai ar y Cei Lechi ac o fewn ac o gwmpas y Castell.

O ran bwyd a diod, mae dewis eang gan gynnwys cynnyrch Oinc Oink, Caws Rhydydelyn, Antur Waunfawr, gin Aber Falls, Amore Pizza a Môn ar Lwy.

Mae’r cogydd poblogaidd Chris ‘Foodgasm’ Roberts yn cynnal arddangosfa arbennig yn y Castell hefyd.

Yn ogystal, mae chwe llwyfan cerddoriaeth – Llwyfan Radio Cymru, Llwyfan y Maes, Llwyfan Bar Bach, Llwyfan y Castell a Llwyfan Anglesey Arms.

Mae Alffa, Gwilym Bowen Rhys a’r Band, Bwncath, Elidyr Glyn, Plu, Phil Gas, Côr Tenovus a Chôr Meibion Caernarfon yn perfformio o 10yb tan 4.30yp.