Mae dyn 26 oed wedi’i gadw yn y ddalfa ar ôl cael ei gyhuddo o drywanu dyn 24 oed i farwolaeth ym maes parcio Tesco yn Slough.
Aeth Aqib Pervaiz gerbron ynadon yn Reading fore heddiw, wedi’i gyhuddo o lofruddio Nadeem Uddin Hameed Mohammed drwy ei drywanu yn ei frest.
Fe ddigwyddodd yr ymosodiad am 12.32 brynhawn dydd Mercher (Mai 8).
Bu farw yn yr ysbyty’n ddiweddarach.
Fe fydd Aqib Pervaiz yn mynd gerbron Llys y Goron Reading ddydd Llun (Mai 13).