Mae cynghorwyr o Sir Ddinbych a Gwynedd wedi galw am gyfarfod brys gyda Llywodraeth Cymru er mwyn trafod datrysiad i gyffordd ar yr A494/A5 yn ardal y Ddwyryd.

Daw’r alwad yn dilyn damwain erchyll yn y lleoliad yr wythnos ddiwethaf (dydd Gwener, Mai 3), pan gafodd beiciwr modur ei gludo i’r ysbyty yn Stoke gydag anafiadau difrifol.

Roedd y Cynghorwyr Mabon ap Gwynfor (Llandrillo/Cynwyd), Elwyn Edwards (Llandderfel) a Huw Jones (Corwen) wedi galw am welliannau yn dilyn cyfres o ddamweiniau yno fis Tachwedd y llynedd.

Maen nhw bellach wedi sefydlu deiseb ar-lein yn galw ar i’r Llywodraeth wneud “gwelliannau ar frys” er mwyn atal unrhyw ddamwain arall rhag digwydd.

‘Angen gweithredu’

“Mae trigolion lleol wedi rhybuddio fod hon yn gyffordd beryglus sawl gwaith, ac fe wnaethom ni fel cynrychiolwyr lleol uno i alw am newidiadau fis Tachwedd diwethaf,” meddai’r Cynghorydd Mabon ap Gwynfor.

“Rydym wedi ysgrifennu at y Gweinidog, Ken Skates, yn gofyn am gyfarfod yn Nwyryd mor fuan er mwyn iddo weld y gyffordd dros ei hun.

“Rydym hefyd wedi mynnu fod newidiadau yn cael eu gwneud cyn i unrhyw un arall ddioddef.”

Ymateb Llywodraeth Cymru

“Rydym eisoes wedi cychwyn astudiaeth o ddichonoldeb y ffordd y gweithir y goleuadau traffig ar yr A5 yn Nwyryd ac awn i’r afael ar fyrder â’r argymhellion a wneir yn yr adroddiad ar ôl ei chwblhau,” meddai Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates.

“Roedd y ddamwain ddiweddaraf yn destun tristwch mawr ac mae Llywodraeth Cymru’n benderfynol o wneud y ffordd yn y fan hon yn fwy diogel.”