Mae’r heddlu yn archwilio i sylw gan un o ymgeiswyr etholiadol UKIP yn ymwneud â threisio Aelod Seneddol Llafur, Jess Phillips.
Mewn fideo ar-lein, awgrymodd Carl Benjamin “efallai” y byddai’n treisio’r Aelod Seneddol Birmingham Yardley.
“Gyda digon o bwysau efallai y byddaf yn rhoi mewn,” meddai yn y fideo.
Roedd Carl Benjamin wedi dod dan y lach o’r blaen ar ôl dweud “na fyddai hyd yn oed yn treisio” yr Aelod Seneddol.
Mae Jess Phillips wedi dweud wrth y BBC ei bod hi “wedi crio yn y stryd” yn dilyn y sylwadau.
“Sylweddolais fy mod wedi gwneud yr hyn y mae pob menyw yn ei wneud yn y sefyllfaoedd hyn, roeddwn wedi bod yn rhoi wyneb dewr arno ac yn esgus ei fod yn iawn a fy mod yn gallu ymdopi,” meddai.
“Daeth hi i’m mhen i, am bedair blynedd yn y bôn, bod y dyn yma wedi gwneud gyrfa allan o aflonyddu arna’ i.”