“Fe allwn wneud yn well ac mae’n rhaid i ni anelu i sicrhau bod dim allyriadau nwy os rydym o ddifrif am yr argyfwng hinsawdd,” meddai Cyfeillion y Ddaear Cymru.
Daw’r sylw mewn ymateb i adroddiad Pwyllgor Gwledydd Prydain ar Newid Hinsawdd ar dargedau allyriadau heddiw (dydd Iau, Mai 2).
Mae’r ymgyrchwyr yn croesawu’r adroddiad ond yn dweud na ddylai Cymru gael targed sy’n is na weddill gwledydd Prydain.
Yn hytrach, dylai Cymru gael targed o leihau 95% o allyriadau nwyon tŷ gwydr ar lefelau 1990 erbyn 2050, yn ôl y grŵp.
Mae Cyfeillion y Ddaear wedi lliniaru cynlluniau i wledydd Prydain wneud yn siŵr bod dim allyriadau nwy erbyn 2045 ar yr hwyraf.
I Gymru, mae hyn yn golygu symud ymlaen i wres a thrydan heb garbon, plannu mwy o goed, a pheidio cloi ein hunain mewn i ddyfodol gyda lefelau uchel o garbon gyda seilweithiau fel ffordd yr M4.
“Gallwn wneud yn well”
“Rydym yn hyderus, gyda phenderfyniad gwleidyddol ac arloesedd y gall Cymru wneud yn well na hyn, a sicrhau nad oes unrhyw allyriadau,” meddai cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru, Haf Elgar.
“Dim ond yr wythnos hon cyhoeddodd Llywodraeth Cymru argyfwng yn yr hinsawdd, ac mae gennym hanes da o bolisïau a deddfau arloesol sy’n ein gwahanu, fel Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.
“Rydym yn cyflawni pethau gwych yng Nghymru ac mae gennym bob rheswm i fod yn uchelgeisiol.
“Rydym yn gweld cymhelliad cynyddol am newid gyda streiciau a phrotestiadau ysgol ac mae angen i ni god i wynebu’r her.”