Mae tocynnau Maes B ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy 2019 bellach ar werth – ac mae rhestr y bandiau wedi’i chyhoeddi heddiw hefyd (dydd Mercher, Mai 1).
Fe fydd wythnos yr Eisteddfod Sir Conwy yn dechrau ar Awst 3 cyn i’r heidiau fentro i Faes B ble bydd y gerddoriaeth yn dechrau ar nos Fercher, Awst 7.
Ymhlith yr artistiaid fydd yn gorffen ar y nos Sadwrn olaf (Awst 10) y mae Mellt (enillwyr Albwm y Flwyddyn Eisteddfod Caerdydd 2018) ac Adwaith sydd wedi denu sylw ledled gwledydd Prydain dros y flwyddyn diwethaf.
Bydd cyfle i weld y slacyrs Los Blancos – un o grwpiau fwyaf poblogaidd Cymru eleni, ar y noson hefyd.
Ar y nos Wener (Awst 9), Gwilym sydd ar frig y rhestr gyda gwesteion newydd Maes B – rapwyr y 3 Hŵr Doeth a Papur Wal yn eu cefnogi.
Bydd Y Cledrau, Fleur de Lys, Omaloma yn dychwelyd a band ifanc Lewys ar y llwyfan ar y nos Iau (Awst 8) tra bydd hen bennau Maes B, Candelas, yn gorffen noson sy’n gweld Alffa, Chroma a Sybs yn rocio ardal Llanrwst ar nos Fercher, Awst 7.
Pwy a pryd
Nos Fercher (Awst 7) – Candelas, Alffa, Chroma, Sybs
Nos Iau (Awst 8) – Y Cledrau, Fleur de Lys, Omaloma, Lewys
Nos Wener (Awst 9) – Gwilym, 3 Hwr Doeth, Papur Wal, Serol Serol
Nos Sadwrn (Awst 10) – Mellt, Adwaith, Los Blancos, Wigwam