Mae Dŵr Cymru wedi ymddiheuro ar ôl iddyn nhw gyhoeddi neges ar y cyfryngau cymdeithasol yn annog pobol i fynd heb gig am ddiwrnod.

Roedd y neges yn rhan o ymgyrch Wythnos Arbed Dŵr, lle mae cwmnïau dŵr a sefydliadau eraill yn rhoi cyngor i bobol ar sut i leihau’r maint o ddŵr maen nhw’n ei ddefnyddio bob dydd.

Ond ers cael eu beirniadu gan gynhyrchwyr cig ac undebau ffermwyr ar wefannau Twitter a Facebook, mae Dŵr Cymru bellach wedi dileu’r neges, gan ymddiheuro am “beri gofid” i gwsmeriaid.

“Roedd thema dydd Llun yn trafod faint o ddŵr a all fod yn rhan o gynhyrchu cig, ac awgrymwyd y gallai pobol fynd heb gig am ddiwrnod – sef ‘Meat free Monday’,” meddai llefarydd ar ran Dŵr Cymru.

“Roedd nifer o bobol wedi ymateb yn dweud eu bod yn anhapus gyda’r cynnwys hyn ar ein tudalen Facebook.

“Rydym wedi dileu’r un post unigol hwn. Mae’n flin gennym ac nid ydym am beri gofid i unrhyw o’n cwsmeriaid.”