Mae dioddefwyr sy’n mynd at yr heddlu i adrodd eu bod wedi cael eu treisio neu gam-drin wedi cael gwybod bod yn rhaid iddyn nhw roi eu ffonau symudol i’r heddlu neu wynebu’r risg bod yr erlyniad yn erbyn eu hymosodwr honedig yn dymchwel.
Mae ffurflenni caniatâd i gael mynediad at negeseuon, lluniau, e-byst a chyfrifon cyfryngau cymdeithasol, wedi cael eu hanfon at 43 o luoedd yr heddlu yng Nghymru a Lloegr.
Daw’r camau diweddaraf fel ymateb i’r helynt pan fethodd cyfres o achosion o drais a cham-drin rhywiol difrifol ar ôl i dystiolaeth dyngedfennol ddod i’r fei ar y funud olaf.
Dywed yr heddlu ac erlynwyr bod y ffurflenni yn ymgais i lenwi’r bwlch yn y gyfraith – ar hyn o bryd, nid oes gorfodaeth ar dystion ac achwynwyr i ddatgelu eu ffon, gliniadur, neu dabled.
Yn ôl y Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus, Max Hill, fe fydd y dyfeisiadau digidol ond yn cael eu hystyried os yw’n ffurfio “rhan resymol o’r ymchwiliad” a dim ond deunydd “perthnasol” fydd yn mynd gerbron y llys os yw’n cwrdd â rheolau penodol.
Ond mae grŵp ymgyrchu o blaid preifatrwydd, Big Brother Watch, wedi beirniadu’r mesurau gan ddweud y gallai atal pobl rhag mynd at yr heddlu i adrodd am droseddau o’r fath.