Fe fydd y trafodaethau Brexit rhwng Llywodraeth Prydain a’r Blaid Lafur yn parhau heddiw (dydd Llun, Ebrill 29).

Daw wrth i’r Ceidwadwyr a Llafur wynebu problemau mewnol ar drothwy’r etholiad Ewropeaidd ym mis Mai.

Mae’r Ceidwadwyr yn pryderu y gallan nhw gael eu cosbi gan bleidleiswyr os nad yw Theresa May yn llwyddo i sicrhau cytundeb Brexit, a hynny tair blynedd ers y refferendwm.

Mae’r etholiad hefyd yn gorfodi’r Blaid Lafur i gadarnhau ei safbwynt ar ail refferendwm, gydag Aelodau Seneddol ac Aelodau Senedd Ewrop yn rhoi pwysau ar yr arweinydd, Jeremy Corbyn, i gefnogi ail bleidlais.

Mae rhai aelodau blaenllaw o’r Blaid Geidwadol yn credu ei bod hi’n dal yn bosib osgoi’r etholiad os yw’r Prif Weinidog yn llwyddo i gael sêl bendith Aelodau Seneddol ar ei chytundeb Brexit.

Ond dyw’r Blaid Lafur ddim yr un mor obeithiol am gyfaddawd, wedi iddyn nhw gyhuddo Theresa May o lynu at ei ‘llinellau coch’ yn y trafodaethau blaenorol ar Brexit.

Dywed ysgrifennydd busnes yr wrthblaid, Rebecca Long-Bailey, ei bod hi’n gobeithio gweld datblygiad yn y trafodaethau yr wythnos hon.

“Ar hyn o bryd, dydyn ni ddim wedi gweld y Llywodraeth yn cefnu ar ei llinellau coch,” meddai. “Rydyn ni’n cael trafodaethau pellach yr wythnos hon, gan obeithio gweld rhyw symudiad.”