Mae cynghorydd a fu’n ymgyrchu o blaid cael yr Eisteddfod Genedlaethol i ymweld ag Abergele yn dweud ei fod yn dal i aros am ymateb o unrhyw fath gan y trefnwyr.
Daw yn sgil amheuon mawr yn Nyffryn Conwy ers i’r caeau yn Llanrwst, sydd wedi’u dewis i fod yn gartref i’r brifwyl, ddod o dan ddŵr ym mis Mawrth eleni.
Ac fe ddaeth cadarnhad pellach yng nghyfarfod Cyngor y brifwyl ddydd Sadwrn (Ebrill 13) eu bod yn chwilio am “faes arall” yn ardal y dre’ honno.
Mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn methu â chael yswiriant ar gyfer y tir sy’n rhan o orlifdir afon Conwy, ac maen nhw’n “edrych y tu hwnt” i’r safle bresennol.
Abergele yn awyddus
Yn ôl y Cynghorydd David Hunter, sy’n aelod o Gyngor Sir Conwy a Chyngor Tref Abergele, mae wedi bod yn gohebu â phwyllgor gwaith y brifwyl a gwleidyddion lleol, gan ofyn a fydden nhw’n fodlon ail-ystyried y dref arfordirol yn gartref i Faes prifwyl 2019.
“Maen nhw’n gwneud eu gorau i ddod o hyd i safleoedd sy’n ddiogel ac sy’n gallu cael eu hyswirio yn ardal Llanrwst,” meddai David Hunter.
“Ond os na fydd yna safle, yna dw i’n siŵr bod gan Abergele siawns.”
Does yna ddim ymholiadau o, na’r cyngor tref, wedi derbyn unrhyw ymholiadau gan y trefnwyr ynghylch Maes posib yn ardal Abergele, hyd yn hyn.
Manteision Abergele
Mae David Hunter yn credu bod gan Abergele “safle mwy addas” i’w gynnig i’r brifwyl na Llanrwst, oherwydd bod gan yr ardal “well seilwaith”, meddai, gyda ffordd yr A55 gerllaw a rheilffordd sy’n rhedeg ar draws y gogledd.
Mae’r cynghorydd di-Gymraeg hefyd yn cofio’r bwrlwm a ddaeth yn sgil ymweliad yr Eisteddfod i Ddyffryn Conwy yn 1995, pan gafodd ei chynnal ar gyrion Abergele.
“Fy nadl dros Abergele oedd y byddech chi’n dod â’r Eisteddfod i ardal sydd ddim yn draddodiadol Gymraeg,” meddai.
“Byddech chi hefyd yn dod i ardal sydd â nifer sylweddol o dwristiaid yn ardaloedd y glannau. Mae tua 50,000 o welyau mewn meysydd carafanau.
“Fe fyddech chi’n dod â’r iaith a’r diwylliant Cymraeg i bobol sydd ddim, efallai, wedi eu profi o’r blaen.”