Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cynllunio gwaith er mwyn sicrhau bod llyn naturiol mwyaf Cymru, Llyn Tegid, yn parhau’n ddiogel.
Yn ystod arolwg gan swyddogion y corff amgylcheddol, fe godwyd “rhai materion” ynghylch gallu argloddiau’r llyn i wrthsefyll “digwyddiadau eithafol” yn y tymor hir.
Ond maen nhw’n mynnu nad oes yna “unrhyw bryderon” ar hyn o bryd, ac mai bwriad y gwaith yw cryfhau’r argloddiau a gwella amddiffyniad tonnau glan y llyn.
Mae argloddiau Llyn Tegid yn “hanfodol” ar gyfer amddiffyn tref Y Bala rhag llifogydd, meddai Cyfoeth Naturiol Cymru.
Diogelu coed
Wrth i’r gwaith gael ei gynnal, dywed Cyfoeth Naturiol Cymru eu bod nhw am geisio diogelu a chadw coed gwerthfawr lle bo modd.
Fe fyddan nhw hefyd, medden nhw, yn “ymgynghori’n eang” a’r gymuned cyn i gais cynllunio ar gyfer y gwaith gael ei gyflwyno i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn ddiweddarach eleni.
“Rydym yn ymwybodol bod rhai yn lleol yn pryderu ynghylch yr angen i dorri coed – coed ynn yn bennaf sydd eisoes wedi’u heffeithio gan glefyd – sy’n tyfu yn yr argloddiau ac yn eu gwanhau,” meddai llefarydd ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru.
“Rydym yn addo gweithio gyda’r gymuned i ddatblygu syniadau am gyfleoedd amgylcheddol a hamdden i gyd-fynd â’r cynllun hwn a lliniaru ar effaith unrhyw goed y bydd yn rhaid eu torri.”
Does dim disgwyl i’r gwaith ddechrau tan hydref 2020.