Mae dyn wedi cyfaddef anfon negeseuon bygythiol at Aelodau Seneddol.

Mae Jarod Kirkman, 51, wedi pledio’n euog i saith o gyhuddiadau yn Llys Ynadon Westminster.

Mae Jarod Kirkman, o Luton, wedi cyfaddef anfon negeseuon bygythiol a negeseuon hiliol at saith o wleidyddion.

Roedd wedi creu cyfeiriad ffug er mwyn anfon y negeseuon, cyn cael ei ddal gan Heddlu Swydd Bedford.

Mae disgwyl iddo gael ei ddedfrydu yn yr un llys ar Ebrill 18.