Mae dyn wedi ei garcharu am oes ar ôl llofruddio ei gymydog mewn maes carafanau yn Sir Gaerfyrddin.

Cafodd Simon Clark, 54, ei drywanu i farwolaeth gan Steven Baxter, 52, ym Mharc Carafanau Grove, Pentywyn – lle’r oedd y ddau yn byw – ar Fedi 27 y llynedd.

Cafwyd Steven Baxter yn euog o lofruddiaeth yn Llys y Goron Abertawe ddoe (dydd Llun, Ebrill 8), ac fe fydd yn gorfod treulio isafswm o 24 mlynedd o dan glo.

Cafodd Simon Clark ei drywanu yn ei frest cyn i’w gorff gael ei ganfod y diwrnod canlynol. Daethpwyd o hyd i Steven Baxter yn cuddio ar draeth yn Sir Gaerfyrddin bron i fis yn ddiweddarach ar Hydref 27.

Roedd Jeffrey Ward, 40, a oedd hefyd yn byw yn y maes carafanau, wedi ei gyhuddo o lofruddio, ond fe’i cafwyd yn ddieuog gan y rheithgor.

Ond mae ei bartner, Julie Harris, 46, wedi ei dedfrydu i 14 mis o garchar, wedi ei ohirio am ddwy flynedd, ar ôl iddi bledio’n euog i wyrdroi cwrs cyfiawnder mewn cysylltiad â’r farwolaeth.