Mae Aelod Seneddol Llafur o Gymru yn dweud ei bod hi’n credu mai “camgymeriad” oedd datganoli, gan awgrymu na fyddai wedi pleidleisio drosto pe bai’n gwybod y pryd hynny yr hyn mae’n ei wybod yn awr.

Mewn cyfweliad â’r newyddiadurwr Guto Harri ar raglen Y Byd yn ei Le ar S4C, mae’r aelod tros Gwm Cynon hefyd yn galw am ail refferendwm Brexit ac yn credu y byddai pobol ei hetholaeth wedi pleidleisio’n wahanol yn 2016 gyda’r wybodaeth sydd ganddyn nhw erbyn hyn.

Wrth roi ei barn ar ddatganoli yng Nghymru, dywed Ann Clwyd, sy’n wreiddiol o Sir y Fflint: “Fel y gwyddoch, rwyf wedi bod yn feirniadol o’r NHS ac addysg yng Nghymru ac wedi bod yn feirniadol o ddatganoli hefyd a dw i’n meddwl mai camgymeriad oedd o.”

Ychwanega y byddai rhoi ei chefnogaeth i ddatganoli mewn ail refferendwm yn “amheus”, cyn dweud mai mater o “amser a ddengys” yw hi o ran achub datganoli.

Ail refferendwm Brexit

Mae’r Aelod Seneddol 82 oed, sydd o blaid aros yn yr Undeb Ewropeaidd, hefyd yn dweud y byddai’n ddig pe bai Jeremy Corbyn yn hwyluso ymadawiad gwledydd Prydain o’r Undeb Ewropeaidd yn ystod ei drafodaethau gyda Theresa May.

“Byddwn yn ddig iawn i ddechrau petawn ni’n gadael oherwydd dw i’n meddwl bod gormod o bobol wedi pleidleisio yn erbyn yr Undeb Ewropeaidd oherwydd bod nhw ddim yn gwybod yn union beth oedd yn cael ei gynnig.

“Fedra i sôn am fy ardal fy hun… maen nhw’n deall bod Boris a’i fws…. ddim yn wir… ac maen nhw’n deall bod yr arian yna ddim ar gael…

“Gadewch i’r bobol gae siawns arall i bleidleisio.”

Bydd cyfweliad Ann Clwyd yn ymddangos ar Y Byd yn ei Le am 9.30yh heno (nos Fawrth, Ebrill 9).