Mae 544 o bobol wedi eu harestio a mwy na 4,500kg o gyffuriau wedi ei feddiannu gan yr heddlu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mewn ardal sy’n cynnwys gogledd Cymru, yn ôl ffigyrau newydd.

Cafodd y gwaith ei gyflawni gan Uned Troseddau Cyfundrefnol y Gogledd-Orllewin (NWROCU) sydd wedi bod yn cydweithio â swyddogion a phartneriaid yn ardaloedd Swydd Gaer, Cumbria, Manceinion, Swydd Gaerhirfryn, Glannau Merswy a gogledd Cymru.

Dywed yr uned bod 544 o bobol wedi eu harestio, gyda swyddogion hefyd wedi meddiannu dros 560kg o gyffuriau Dosbarth A a thua 4,000kg o gyffuriau Dosbarth B.

Cafodd mwy na £28m ei feddiannu gan yr uned oddi ar droseddwyr hefyd, medden nhw.

Yn ôl Emily Higham, pennaeth yr Uned Trosedd Gyfundrefnol Rhanbarthol, mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn un “lwyddiannus”.