Mae’n ymddangos y gallai’r wrthblaid ennill digon o gefnogaeth i gipio dwy o ddinasoedd mwyaf Twrci, wrth i arlywydd y wlad, Recep Tayyip Erdogan, a’i blaid geidwadol gael crasfa yn yr etholiad diweddaraf.

Mae’r wrthblaid wedi ennill Ankara, y brifddinas, a fu am ddegawdau yn gadarnle i’r blaid sydd mewn grym.

Neithiwr, roedd yr wrthblaid hefyd ar y blaen yn y ras agos i gipio Istanbwl.

Mae’r arlywydd wedi bod yn ei le ac wedi dylanwadu’n drwm ar wleidyddiaeth Twrci am 16 mlynedd, ac mae’n dal i hawlio buddugoliaeth er llwyddiannau ei wrthwynebwyr.

Mae’r etholiad, a gynhaliwyd ddydd Sul (Mawrth 31) yn cael ei weld fel ffordd o fesur y gefnogaeth i Recep Tayyip Erdogan ymhlith yr 81 miliwn o bobol y wlad sy’n wymebu dirwasgiad economaidd llym.

Mae’r balot hefyd yn brawf ar yr arlywydd sydd wedi’i gyhuddo o ddefnyddio dulliau llai na democrataidd o reoli.

Y llynedd, fe gyhoeddodd fwy o bwerau iddo’i hun.