Mae arlywydd Wrwgwai wedi diswyddo pennaeth byddin y wlad ar ôl iddo gael ei gyhuddo o gelu gwybodaeth ynglŷn â throsedd a gyflawnwyd gan aelod o’r fyddin yn ystod yr 1970au a’r 1980au.

Yn ogystal â diswyddo Cadfridog Jose Gonzalez, mae Tabare Vazquez hefyd wedi rhoi’r sac i bum cadfridog arall.

Roedd Jose Gonzalez ond wedi bod yn y swydd ers pythefnos, wedi iddo olynu Cadridog Guido Manini Rios.

Cafodd y gŵr hwnnw ei ddiswyddo fis diwethaf wrth i’r arlywydd gwestiynu sut mae llysoedd lleol wedi delio ag achosion sy’n cynnwys aelodau o’r fyddin a gafodd eu cyhuddo o gamdriniaeth ddynol.

Mae’r achosion yn ymwneud â’r cyfnod pan oedd Wrwgwai yn cael ei rheoli gan y fyddin rhwng 1973 ac 1985.

Cafodd y cadfridog diweddaraf ei ddiswyddo yn dilyn adroddiadau bod un o lysoedd y fyddin wedi clywed cyfaddefiad gan un gyn-aelod o’r fyddin ei fod wedi taflu corff yr ymladdwr asgell-chwith, Tupamaru, i mewn i afon yn 1973.

Mae’n debyg nad oedd Gen Gonzalez nac aelodau eraill o’r tribiwnlys ddim wedi hysbysu’r fyddin nac erlynwyr ynghylch y mater.