Mae offeiriaid Pabyddol mewn plwyf yng ngogledd gwlad Pwyl wedi llosgi llyfrau y maen nhww’n eu hystyried yn “ddieflig” – yn cynnwys pob un o gyfrolau cyfres Harry Potter.
Mae lluniau o’r llosgi yn Gdansk wedi’u cyhoeddi ar wefan gymdeithasol Facebook gan sefydliad Catholig sy’n defnyddio dulliau anghonfensiynol o gyflawni ei waith crefyddol.
Yn y lluniau, mae fflamau yn llyfu masg pren o Affrica, modelau o eliffantod a llyfrau am bobok enwog a hud a lledrith; ynghyd â chyfrolau JK Rowling.
Mae’r offeiriad a bechgyn yr eglwys yn gwylio’r tanllwyth.
Mae’r sefydliad yn dweud fod y llosgi yn tynnu sylw’r plwyfolion at ddylanwadau drwg sy’n dod o feysydd hud a’r ocwlt.
Mae sylwadau o dan y lluniau ar y wefan yn condemnio’r llosgi, ac yn atgoffa pobol o’r un peth yn digwydd yn yr Almaen Natsïaidd cyn yr Ail Ryfel Byd.