Mae’r podlediad soffa i 5k cyntaf yn yr iaith Gymraeg wedi cael ei lansio i gyd-fynd â chyfres newydd o raglen ffitrwydd boblogaidd FFIT Cymru ar S4C.
Bydd y gyfres yn dychwelyd nos Fawrth (Ebrill 2), ar ôl i enwau’r pum arweinydd gael eu cyhoeddi’r wythnos ddiwethaf.
Fitbit sy’n noddi’r gyfres eleni, wrth i’r arweinwyr – pum aelod cyffredin o’r cyhoedd – geisio trawsnewid eu ffordd o fyw drwy ddilyn cyngor ac arweiniad tri arbenigwr – yr hyfforddwr personol Rae Carpenter, y dietegydd Sioned Quirke a’r seicolegydd Dr Ioan Rees.
Penllanw saith wythnos o heriau fydd cymryd rhan mewn her 5k parkrun.
Rae Carpenter sydd wedi lleisio’r podlediad newydd sbon i helpu aelodau’r cyhoedd sydd am ymuno yn heriau’r arweinwyr.
“Dw i methu disgwyl dechrau gweithio efo’r pum arweinydd sydd gennym eleni,” meddai Sioned Quirke.
“Mae’r pump yn dod o bob gefndiroedd gwbl wahanol. Mae ganddyn nhw i gyd eu problemau unigol, ond mae hefyd ganddyn nhw straeon lyfli.”
Yr arweinwyr
Mae prifathro ysgol gynradd a pharafeddyg ymhlith yr arweinwyr fydd yn ymddangos yn y gyfres eleni.
Yr arweinydd ieuengaf yw Mared Fôn Owen o Fodedern, Ynys Môn, sy’n 20 oed ac yn astudio Cymraeg ym Mhrifysgol Bangor.
Ei nod hi fydd ceisio newid arferion drwg myfyrwyr o fyw ar brydau parod a dysgu sut i fwyta’n iach.
Mae Mathew Jones, sy’n hanu o Bont-y-pŵl ond yn byw yn Aberystwyth ac yn gweithio i Blaid Cymru, yn gobeithio colli pwysau drwy ddysgu sut i fwynhau gwneud ymarfer corff.
Dirprwy brifathro ym Mhontypridd yw David Roberts sy’n byw yng Nghaerffili ond yn dod o Landudno.
Roedd yn arfer chwarae pêl-droed i safon uchel, ond mae e wedi magu pwysau ers iddo roi’r gorau iddi.
Mae Annaly Jones o Gaerfyrddin yn fam sengl i dri o fechgyn ac mae hi wedi colli ei hyder o ganlyniad i’w phwysau.
Ac mae Emlyn Bailey o Flaenau Ffestiniog yn gweithio fel parafeddyg dan hyfforddiant ac yn gydlynydd tîm achub mynydd Aberglaslyn ond ddim yn ddigon ffit i ymuno â’r tîm ar y mynyddoedd.
Mae modd dilyn taith yr arweinwyr drwy’r podlediad ac ar y cyfryngau cymdeithasol.