Mae’r gyflwynwraig deledu Alex Jones wedi bod yn sôn mewn cyfweliad am y profiad o golli babi yn 2017.

Mae gan y Gymraes fab ddwy oed, Teddy, ac mae hi’n disgwyl ei hail blentyn yn ystod y misoedd nesaf.

Ond collodd hi fabi flwyddyn a hanner yn ôl.

“Fe wnaethon ni feichiogi ym mis Hydref 2017, pan oedd Teddy yn ddeg mis, ac fe gollon ni’r babi hwnnw,” meddai wrth gylchgrawn Stella y Sunday Telegraph.

“Wnes i ddim sylweddoli am sbel hir oherwydd ro’n i wedi bod yn bwydo ar y fron, a dydy’ch misglwyf ddim yn dod yn ôl ar unwaith.”

Ail blentyn

Mae’n dweud iddi ddarganfod ei bod hi’n disgwyl ei hail blentyn tra ei bod hi’n ymweld â theulu yn Seland Newydd.

“Roedd e mor annisgwyl, ond roedden ni wrth ein boddau,” meddai.

“O edrych yn ôl, pan o’n i’n dost iawn yn Seland Newydd, dyna fwy na thebyg pryd roedd pethau’n cwympo’n ddarnau.”

Daeth y newyddion wedyn ei bod hi wedi colli’r babi.

“Fe wnaethon ni ddarganfod nad oedd gan y babi guriad calon.

“Ro’n i oddeutu 14 wythnos, sy’n amser sylweddol.

“Roedd y babi wedi stopio datblygu’n rhyw naw wythnos. Roedd hynny’n galed iawn. Fe wnaeth ein bwrw ni fel tunnell o frics.”

Mae’n dweud iddi gwestiynu a oedd hi wedi gwneud unrhyw beth o’i le.

Dychwelyd i’r byd teledu

O fewn awr, roedd hi wedi dychwelyd i’r sgrîn i gyflwyno The One Show.

“Dywedais i, ‘Beth arall ydw i’n mynd i’w wneud?’ Mae’n deimlad ofnadwy oherwydd mae popeth mor wag.

“Does dim byd i’w ddweud. Mae ar ben.”

Beichiogi eto

O fewn chwe wythnos, roedd hi’n feichiog eto ond yn teimlo’n “gwbl wahanol” y tro hwnnw.

“Dydych chi ddim yn gadael i chi’ch hun ymlacio.

“Allwn i ddim ei fwynhau am amser hir a wnes i ddim dweud wrth unrhyw un am oesoedd.”