Mae disgynnydd un o genhadon Cymraeg cyntaf Madagascar yn bwriadu cerdded pellter o tua 40 milltir yn ystod penwythnos y Pasg er mwyn codi arian ar gyfer prosiectau dyngarol ar yr ynys.
Mae Eifion Griffiths o Ffair-fach ger Llandeilo yn ddisgynnydd i David Griffiths (1792-1863) o Wynfe, a fu’n gweithio ym Madagascar 200 mlynedd yn ôl ac sy’n enwog am gyfieithu’r Beibl i’r iaith Falagaseg.
Bwriad y disgynnydd yw cerdded o Jerwsalem ger Gwynfe i Neuadd-lwyd yng Ngheredigion, lle bu David Griffiths yn mynychu Academi Thomas Phillips, yr un academi y bu dau genhadwr arall – David Jones a Thomas Bevan – yn ddisgyblion ynddi.
Mae’r daith yn codi arian ar gyfer Apêl Madagascar, a gafodd ei lansio gan Undeb yr Annibynwyr Cymraeg fis Mehefin y llynedd adeg deucanmlwyddiant cenhadon Cymru-Madagasgar.
Tlodi Madagascar
Yn ôl Eifion Griffiths, sy’n gyn-drysorydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, mae’n perthyn i David Griffiths ar ddwy ochr ei deulu, ac wedi darllen tipyn am y “dyn dewr ac argyhoeddedig” yn ystod y blynyddoedd.
“Ces gyfle i ymweld â Madagascar yn ddiweddar i weld ble’r oedd David Griffiths wedi bod yn byw ac yn gweithio,” meddai.
“Tra oeddwn i yno, fe welais pa mor eithafol a phellgyrhaeddol oedd y tlodi yno. Roedd yn cyffwrdd â chymaint o bobol.
“Penderfynais fy mod i am wneud rhywbeth i gefnogi’r apêl.”
O Wynfe i Ddyffryn Aeron
Bydd y daith yn cael ei chynnal dros gyfnod o dridiau ar ddiwedd y mis, gan gychwyn ar ddydd Gwener y Groglith (Ebrill 19) a gorffen ar Sul y Pasg (Ebrill 21).
“Mae fy merch, Siwan, am gerdded gyda fi a bydd Undeg, fy ngwraig, yn ein cefnogi ni yn ein hymdrechion, rhag ofn,” meddai Eifion Griffiths.
“Mi fydd criw o gyfeillion yn dod i Jerwsalem, Gwynfe, er mwyn ein hanfon ni ar ein ffordd, ac yna ar ben y daith, rydym ni’n gobeithio y bydd rhai yn dod i gwrdd â ni yn y capel yn Neuadd-lwyd.”
Dyma fideo o Eifion Griffiths yn sôn rhagor am y daith…