Mae prif chwip y Ceidwadwyr wedi beirniadu strategaeth y Llywodraeth tuag at Brexit ac wedi beirniadu aelodau o’r Cabinet am fod “yr esiampl waethaf o ddiffyg disgyblaeth yn hanes gwleidyddol Prydain.”

Mewn cam anarferol, fe awgrymodd Julian Smith bod gweinidogion wedi dilyn y strategaeth anghywir ar ôl i’r Prif Weinidog golli mwyafrif y Ceidwadwyr yn y Senedd yn dilyn yr etholiad brys yn 2017.

Yn ôl Julian Smith, roedd canlyniad yr etholiad yn golygu nad oedd gan Theresa May ddigon o Aelodau Seneddol i gefnogi fersiwn mwy caled o Brexit.

Cafodd ei sylwadau eu cyhoeddi gan y BBC yn sgil dyfalu y gallai’r Senedd orfodi’r Prif Weinidog i geisio cael aelodaeth o undeb dollau gyda Brwsel er mwyn sicrhau bod ei chytundeb yn cael ei gymeradwyo.

“Yr hyn mae pobl yn ei anghofio yw bod y Blaid Geidwadol wedi ceisio cael mwyafrif er mwyn gweithredu Brexit ond wedi methu cael mwyafrif,” meddai Julian Smith.

Mae cynllun Brexit Theresa May bellach wedi methu tair gwaith yn Nhŷ’r Cyffredin gydag ASau Ceidwadol ymhlith y rhai sydd wedi pleidleisio yn ei erbyn ar bob achlysur.

Dywedodd Julian Smith bod y diffyg disgyblaeth yn ymestyn i’r Cabinet gyda gweinidogion “Yn eistedd o gwmpas bwrdd y Cabinet… yn ceisio ei hansefydlogi [Theresa May]”.

Ond wrth ymateb i’w sylwadau dywedodd Prif Ysgrifennydd y Trysorlys Liz Truss wrth raglen Today ar BBC Radio 4 nad oedd hi’n credu y byddai Brexit mwy “meddal” yn ennyn cefnogaeth.