Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi gorfod cyfeirio eu hunain at reoleiddwyr ar ôl i swyddogion saethu dyn ynghanol tref Llanelli.

Cafodd y dyn ei gludo i’r ysbyty gydag anaf i’w arddwrn ar ôl iddo gael ei saethu gan fwledi rwber.

Cafodd yr heddlu arfog eu galw yn dilyn adroddiad bod dyn yn gwneud bygythiadau i ladd yn Stryd Burry yn y dref yn fuan wedi 2yb heddiw (dydd Mawrth, Mawrth 26).

Mae clip fideo gan un aelod o’r cyhoedd yn dangos y dyn yn wynebu’r heddlu cyn cael ei saethu.

Mae modd clywed llais tyst yn y fideo hefyd yn gofyn, “beth mae’n e’n ei wneud? Pam mae ganddo fe fwa saeth?”

Ymchwilio i ymddygiad yr heddlu

Ar ôl cael ei gludo i Ysbyty Tywysog Philip fel rhagofal, mae’r dyn bellach yn cael ei gadw yn y ddalfa.

Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cyfeirio’r achos at y Swyddfa Annibynnol ar gyfer Ymddygiad yr Heddlu (IOPC).

Dywedodd llefarydd ar ran yr IOPC: “Rydym wedi cychwyn ymchwiliad i weithredoedd Heddlu Dyfed-Powys yn ystod digwyddiad lle cafodd bwledi rwber eu saethu y tu allan i eiddo yn Stryd Burry, Llanelli, yn gynnar y bore yma.

“Ni chafodd dyn ei anafu’n ddifrifol, ond cafodd ei gludo i Ysbyty Tywysog Philip gydag anaf i’w arddwrn. Cafodd ei arestio yn y fan a’r lle.

“Mae ein hymchwilwyr ar y safle ar hyn o bryd ac…. yn casglu tystiolaeth.”