Mae’r heddlu wedi arestio chwech o bobol yn eu harddegau ar ôl i ganolfan Islamaidd gael ei fandaleiddio yn Newcastle.

Roedd copïau o’r Coran wedi eu rhwygo’n ddarnau, a ffenestri wedi eu torri.

Fe ddigwyddodd yn y Bahr Academy ar Benwell Lane yn y ddinas neithiwr (nos Lun, Mawrth 25) ac mae Heddlu Northumbria yn dweud bod dinistr sylweddol iddo, ac yn ei weld fel gweithred o gasineb.

Bu ymosodiad tebyg yn y ganolfan ym mis Ionawr.

Dywed yr heddlu bod dynes 18 oed, dau fachgen 16, dau fachgen 14, ac un ferch 14 oed wedi cael eu harestio ac yn y ddalfa.

Dyma’r diweddaraf mewn beth sydd wedi bod yn digwydd reit aml ar yng ngwledydd Prydain yn ddiweddar.