Mae UKIP Cymru mewn “shambyls” yn dilyn ymadawiad Michelle Brown o grŵp y blaid yn y Cynulliad, yn ôl y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig.
Yr aelod tros Ogledd Cymru yw’r pedwerydd Aelod Cynulliad i adael y grŵp ers etholiadau’r Cynulliad yn 2016, pan gafodd saith aelod UKIP eu hethol.
Mae’n dilyn Caroline Jones, Mark Reckless a Nathan Gill – sydd hefyd wedi gadael UKIP Cymru yn ystod y tair blynedd diwethaf.
Bydd Michelle Brown bellach yn eistedd fel aelod Annibynnol yn y Cynulliad.
Gadael y grŵp – y rhesymau
Mewn datganiad, mae Michelle Brown yn dweud ei bod hi’n ofni bod synnwyr cyffredin yn pylu o fewn i’r blaid ar ôl i Neil Hamilton rannu llwyfan yn ddiweddar â Tommy Robinson, sy’n ymgynghorydd i’r blaid ers y llynedd.
Dywed ei bod hi’n anhapus ag e-bost a gafodd ei anfon gan Gerrard Batten, arweinydd UKIP, yn nodi y bydd Tommy Robinson nid yn unig yn siarad mewn rali sydd wedi ei drefnu gan y blaid, ond yn ei noddi hefyd.
“Mae’n glir bod angen i wledydd Prydain faeddu eithafiaeth a ffwndamentaliaeth yn eu holl ffurf a’u hamrywiaeth,” meddai Michelle Brown.
“Ond dw i’n ofni bod arweinyddiaeth bresennol UKIP yn credu mai’r ffordd orau o wneud hyn yw i fagu a meithrin ffwndamentaliaeth arall.”
Mae Michelle Brown hefyd wedi beirniadu’r “diffyg democratiaeth a chyfathrebu” o fewn grŵp y blaid yn y Cynulliad, gan ddweud na wnaeth Gareth Bennet, yr arweinydd, “ddim ymdrech” i atal Caroline Jones rhag gadael.
Roedd yn “allweddol” yn cadw Mandy Jones, sy’n eistedd fel Aelod Cynulliad Annibynnol, allan ohono hefyd, meddai Michelle Brown ymhellach.
“Difaterwch”
Yn ôl arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, Jane Dodds, mae’r ymddiswyddiad diweddaraf yn adlewyrchu cyflwr UKIP Cymru ar hyn o bryd, gyda cholli pedwar Aelod Cynulliad yn “edrych fel difaterwch”.
“Mae UKIP o hyd wedi bod yn blaid eithafol,” meddai Jane Dodds. “Ond yn ystod y misoedd diwethaf, mae UKIP wedi dod yn fwy eithafol, drwy ddiffinio eu hunain gyda gwrth-Islamiaeth noeth a chysylltu eu hunain gyda ffasgwyr brwnt fel Tommy Robinson.
“Mae’n dweud llawer pan mae’r blaid wedi dod yn rhy eithafol i bawb heblaw am ffieiddiwr fel Neil Hamilton a phobol gwrth-drans fel Gareth Bennet.
“Rydyn ni’n llwyr ymwrthod â chasineb UKIP Cymru ac yn hyderus y bydd pobol Cymru yn gwneud yr un peth yn 2021.”