Mae Heddlu Dyfed-Powys yn ymchwilio i ymosodiad hiliol yn Llanelli ddiwedd y mis diwethaf.

Fe gafodd swyddogion eu galw i ganol y dref tua 8,15yh nos Sadwrn, Chwefror 23, lle’r oedd dyn 29 oed wedi bod yn gwylio’r gêm rygbi rhnwg Cymru a Lloegr.

Tra’r oedd y dyn yn cerdded heibio i’r Llys Ynadon, tuag at Heol y Bont, a phan oedd yng nghyffiniau’r siop undeb credyd, fe ddaeth tri neu bedwar dyn i’w gyfarfod. Fe gafodd ei ddyrnu sawl gwaith yn ei ben.

Mae’r heddlu’n gofyn i unrhyw un a welodd neu a glywodd unrhyw beth a allai fod yn berthnasol i’w hymchwiliad, i gysylltu ar y rhif 101.