Mae dyn wedi’i gyhuddo o geisio llofruddio ac o fod ag arf yn ei feddiant, wedi i ddyn 71 oed gael ei drywanu yn y Borth, Ceredigion.

Neithiwr (nos Lun, Mawrth 11) fe gafodd David Kenneth Fleet, 21, o’r Borth, ei gyhuddo o geisio llofruddio ac o fod â chyllell yn ei feddiant.

Mae wedi’i gadw yn y ddalfa, ac mae disgwyl iddo ymddangos gerbron Llys Ynadon Hwlffordd heddiw (Mawrth 12).

Fe gafodd gŵr 71 oed ei drywanu tra’n cerdded ei gŵn ger sŵ yr Animalarium ddydd Iau, Chwefror 28. Fe gafodd ei gludo mewn hofrennydd i’r ysbyty, lle mae’n dal i dderbyn triniaeth ac mewn cyflwr difrifol.