Mae Heddlu De Cymru yn apelio am wybodaeth wrth geisio dod o hyd i fachgen 13 oed sydd ar goll .

Mae Dominik Puza yn dod o ardal yr Eglwys Newydd yng Nghaerdydd, a does neb wedi ei weld ers dydd Gwener diwethaf (Mawrth 8).

Y gred ydi ei fod yn dal yn ardal Caerdydd, neu wedi teithio i Lundain.

Mae Dominik Puza yn dod o dras Tsiec, tua 5’6″ o daldra, gyda gwallt tywyll, llygaid brown, ac o gorffolaeth ganolig. Y tro diwethaf iddo gael ei weld, roedd yn gwisgo siaced ddu, jîns glas tywyll a thrênyrs Nike.

Mae ganddo hefyd graith fechan ger ei wefus uchaf.