Mae Aelod Cynulliad Canolbarth a Gorllewin Plaid Cymru, Helen Mary Jones, wedi cael ei dewis gan aelodau’r Blaid yn Llanelli i geisio ailgipio‘r sedd yn etholiad 2021.

Fe gafodd Helen Mary Jones ei hethol yn Aelod Cynulliad Llanelli yn 1999 a 2007, ond y Llafurwr Lee Waters yw’r AC presennol.

Cafwyd arolygon barn gan ITV a’r BBC yr wythnos diwethaf oedd yn bositif iawn i Blaid Cymru, ac yn awgrymu y gallai’r Blaid ennill yn Llanelli.

Ac mae Cadeirydd cangen Llanelli o Blaid Cymru yn “gwbl hyderus” yng ngallu Helen Mary Jones i ennill y sedd am y trydydd tro.

“Mae record dda ganddi, mae hi’n barod i weithio, ac mae ganddi dîm gwych y tu ôl iddi yn barod,” meddai Deris Williams.

“Adnabod ei phobol”

Cafodd hystings eu cynnal fore Sadwrn diwethaf (Mawrth 2) yng nghwm Gwendraeth a neithiwr (Nos Iau, Mawrth 7) yn Llanelli rhwng Helen Mary Jones ac Abi Thomas.

“Roedd y ddwy yn hynod dda,” meddai Deris Williams, “ond Helen wnaeth gario’r dydd.

“Chewch chi ddim cryfach na Helen Mary Jones – mae hi’n alluog ac yn adnabod ei phobol…

“Mae ymgyrch Llanelli yn allweddol, ac mae’n bwysig  adeiladu ar y gwaith mae Cyngor Sir Gâr wedi ei wneud yn barod a symud ymlaen.”

 “Mwy o aelodau nag erioed”

Mae mwy o aelodau ym Mhlaid Cymru Llanelli nag erioed, meddai Deris Williams, a’r niferoedd yn parhau i gynyddu.

“Rydyn ni’n cael cyfarfod etholaeth fisol , mae pawb yn agos iawn ac mae pethau’n bositif iawn ar hyn o bryd.

“Mae gennym ni dîm trefnus iawn, ac mae mwy a mwy o bobol ifanc yn ymuno â’r Blaid yma. Bydd cynhadledd Plaid Ifanc yn cael ei chynnal yma ym mis Ebrill.”

Mae sedd Llanelli yn sicr yn mynd i fod un o flaenoriaethau Plaid Cymru, ynghyd â seddi Blaenau Gwent, Caerffili, a sedd y Prif Weinidog, Mark Drakeford yng Ngorllewin Caerdydd.

Ar hyn o bryd mae gan Lee Waters o’r Blaid Lafur fwyafrif o 382 yn Llanelli.