Mae cyfreithiwr teulu Shamima Begum yn dweud bod ei babi wedi marw.

Fe adawodd Shamima Begum Lloegr er mwyn ymuno gyda’r Wladwriaeth Islamaidd yn Syria.

Ym mis Chwefror fe wnaeth y ferch 19 oed eni mab mewn gwersyll ffoaduriaid, a hithau eisoes wedi colli dau fabi.

Heddiw mae cyfreithiwr ei theulu yn dweud bod “adroddiadau cryf sydd heb eu cadarnhau” bod y babi wedi marw.

Roedd Shamima Begum yn 15 oed pan aeth i ymuno gydag IS yn 2015.

Fis diwethaf fe gafodd ei chyfweld gan bapur newydd yn y gwersyll yn Syria gan sôn am ei gobaith o gael dychwelyd i Brydain.