Mae cannoedd o aelodau wedi galw am gyfarfod arbennig i drafod dyfodol Cymdeithas y Cobiau a Merlod Cymreig.
Bellach mae 358 o bobol wedi arwyddo deiseb yn galw am Gyfarfod Cyffredinol Eithriadol (EGM) er mwyn cynnig pleidlais diffyg hyder yn y Cyngor – sef uwch swyddogion y corff.
Yn ôl sefydlydd y ddeiseb, Steve Everitt, mae’r Cyngor wrthi’n ystyried y cais, ac mae’n disgwyl clywed oddi wrthyn nhw o fewn rhai dyddiau.
Mae’r aelod yn gobeithio bydd y ddeiseb yn arwain at bob un o’r uwch-swyddogion yn cael eu disodli, ac mae’n esbonio pam y sefydlodd y ddeiseb.
“Mae gennym ni lawer o bobol newydd yn y swyddfa,” meddai wrth golwg360.
“Rydym wedi cael wyth ysgrifennydd gwahanol i’r cwmni o fewn y tair blynedd diwethaf. A does dim un ohonyn nhw wedi cael profiad yn y gorffennol o redeg cymdeithas brîd.
“Mae hynny’n dweud cyfrolau am y sefyllfa.
“Mae gennym fwrdd o ymddiriedolwyr sydd yn fridwyr merlod a chobiau gwych. Nhw yw crème de la crème y maes.
“Ond efallai nad nhw yw’r bobol gorau i redeg busnes sydd yn gwneud £750,000 y flwyddyn – cyn tynnu costau i ffwrdd.”
Dyma’r tro cyntaf erioed i aelodau alw am EGM, meddai, ac mae’n dweud bod “mwy o bobol eisiau iddyn nhw adael, nag sydd yna o bobol a bleidleisiodd iddyn nhw fod yna yn y lle cyntaf”.
Y gymdeithas
Elusen a chwmni yw’r gymdeithas sydd yn gwneud mwyafrif o’i £750,000 trwy werthu pasborts ceffylau. Mae’n gwneud hynny ar ran Llywodraeth Cymru.
Mae’n rhaid i bob ceffyl dderbyn pasbort cyn eu bod yn chwe mis oed, ac mae’r llyfrynnau yn nodi os oes modd bwyta’r anifail wedi iddo farw.
Cyngor o 15 ymddiriedolwr sydd yn rhedeg y corff, a phob blwyddyn mae pum aelod yn gadael, a phump arall yn cael eu hethol i gymryd eu lle.
O fewn y flwyddyn ddiwethaf mae chwe ymddiriedolwr wedi ymddiswyddo, ac am gyfnod dim ond naw oedd ar ôl.
Dan reolau’r gymdeithas roedd modd i’r naw benodi degfed person, felly mae yna ddeg ymddiriedolwr ar hyn o bryd – mae un heb gael ei ethol gan aelodau.
Yn ystod Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol (AGM) y corff eleni, hoffai Steve Everitt weld y 10 ymddiriedolwr yn camu o’r neilltu fel bod modd ethol 15 newydd.
Mae golwg360 wedi gofyn i Gymdeithas y Cobiau a Merlod Cymreig am ymateb.