Mae peilot oedd yn hedfan awyren syrthiodd o’r awyr a mynd ar dân yn sioe awyr Shoreham, gan ladd 11 dyn, wedi cael ei ganfod yn ddieuog o ddynladdiad.
Roedd Andrew Hill wedi ceisio gwneud lŵp yn yr awyr pan syrthiodd ei awyren Hawker Hunter ar yr A27 yng ngorllewin Sussex ar Awst 22, 2015.
Yn Llys yr Old Bailey yn Llundain fe blediodd y peilot 54 oed o Buntingford, Hertfordshire, yn ddieuog o 11 cyhuddiad o ddynladdiad trwy esgeulustod.
Yn ôl erlynwyr, roedd Andrew Hill – oedd yn arfer bod yn beilot gyda’r RAF a British Airways – wedi bod yn hedfan yn rhy isel ac yn rhy araf wrth iddo geisio cyflawni stỳnt.
Ond dywedodd y peilot ei fod wedi ei daro yn anymwybodol yn yr awyr.
Clywodd y llys nad oedd archwiliadau meddygol cyn ac ar ôl y ddamwain wedi medru dangos os oedd gan Andrew Hill unrhyw gyflwr a fyddai wedi effeithio ar ei iechyd.
Dyfarnodd y rheithgor ei fod yn ddieuog ar ôl trafod am ychydig dros saith awr.