Fe fydd cyfarfod cyhoeddus yn cael ei gynnal yn un o bentrefi Cymreiciaf Cymru yr wythnos nesaf (nos Iau, Mawrth 14) er mwyn trafod dyfodol y siop a’r dafarn.

Mae siop y pentref Bethel ger Caernarfon, yn cau ym mis Ebrill, ac wedi cau tafarn Y Bedol dros ddwy flynedd yn  ôl, mae hynny’n golygu na fydd siop na phost yn y pentref chwaith.

Byddai colli’r siop, sydd wedi bod yno ers blynyddoedd, yn “golled fawr” i’r gymuned meddai’r cynghorydd Sion Jones.

“Mae Cled a Susan, sy’n rhedeg y siop, wedi gwneud gwasanaeth grêt i’r pentref – maen nhw wedi bod yn rhedeg y siop ers deg blynedd,” meddai’r cynghorydd sir, Sion Jones.

“Siop a thafarn mae pobol Bethel isio. Rydan ni wedi creu grŵp llywio i drafod hefo’r gymuned sut wnawn ni fynd ymlaen, ac i weld os fydd hi’n troi’n siop gymunedol.”

Be’ ddaw o’r Bedol?

Yn ôl Sion Jones, mae’r syniad o greu tafarn yn hen dafarn Y Bedol – sydd â bar newydd sbon ynddi yn barod – wedi cael ei grybwyll, ac mae’r gŵr busnes lleol, Gari Wyn, eisoes wedi prynu’r safle ac wedi gwario miloedd o bunnau yn adnewyddu’r adeilad.

Mae hefyd wedi cynnig y lle am rent hanner pris i roi cartref i siop a swyddfa bost… ond mae pobol Bethel eisiau gweld y siop bresennol yn cael ei gwella.

“Mae prynu safle yn well na rhentu i bobol Bethel,” meddai Sion Jones, “ond dydi o ddim am ddigwydd dros nos.

“Mae ffeindio’r pres yn cymryd misoedd – felly dros dro fydd y siop yn cau, a bydd y pwyllgor angen edrych i osod rwbath dros dro cyn bod rhywbeth mawr yn cael ei wneud.”

Mae deg o bobol ar bwyllgor Siop Saron ar hyn o bryd, ac mae Sion Jones yn galw ar unrhyw unigolion fyddai ag arbenigedd i ymuno.