Daeth cadarnhad mai Ruth Jones yw ymgeisydd Llafur yn yr is-etholiad i ddewis olynydd i Paul Flynn, diweddar aelod seneddol y blaid yng Ngorllewin Casnewydd.
Mae hi wedi derbyn cefnogaeth Jayne Bryant, yr Aelod Cynulliad lleol, arweinydd y cyngor Debbie Wilcox a chyn-Lywydd y Cynulliad y Fonesig Rosemary Butler.
Bydd hi’n sefyll yn erbyn Neil Hamilton (UKIP), Jonathan Clark (Plaid Cymru), Amelia Womack (Y Blaid Werdd), Matthew Evans (Ceidwadwyr), June Davies (Renew) a Richard Suchorzewski (Plaid Diddymu’r Cynulliad).
Bywyd a gyrfa
Yn ferch leol o’r Gaer yng Nghasnewydd, cafodd Ruth Jones ei haddysg yn Ysgol Uwchradd Duffryn (Ysgol John Frost erbyn hyn) cyn hyfforddi i fod yn ffisiotherapydd.
Mae hi’n byw yn Allt-yr-yn ac yn llywodraethwr yn Ysgol Gynradd Glasllwch, lle’r aeth ei phlant i’r ysgol.
Treuliodd hi dros 30 o flynyddoedd yn gweithio yn y Gwasanaeth Iechyd, yn Ysbyty Nevill Hall yn Y Fenni, Uned Strôc Panteg a Chanolfan Blant Serennu yng Nghasnewydd.
Cafodd ei hethol yn llywydd TUC Cymru yn 2007, ac mae hi hefyd yn gwirfoddoli yn lloches nos dinas Casnewydd.
Casnewydd yn gartref i Ruth Jones
“Ces i fy ngeni a fy magu yng Nghasnewydd,” meddai. “Dyma lle dw i’n ei alw’n gartref i fi.
“Bues i’n gweithio yn y Gwasanaeth Iechyd am fwy na 30 mlynedd ac yn fy swydd bresennol, dw i’n siarad ar ran pobol sydd wedi cael eu trin yn wael yn y gwaith.
“Gyda’r profiad hwn, fe wnaf i frwydro i sicrhau bod pobol yn cael tegwch ac y gallan nhw ddibynnu ar y gwasanaethau hanfodol sydd mor bwysig i deuluoedd ledled Casnewydd.
“Y materion sydd o bwys i bobol leol sydd wrth wraidd yr etholiad hwn, a byddaf yn gwneud y peth iawn dros Orllewin Casnewydd.
“Mae’r Torïaid wedi gorfodi degawd o doriadau ar ein gwasanaethau cyhoeddus, wedi torri nifer y plismyn ar ein strydoedd ac wedi gwthio pobol sy’n gweithio’n galed i mewn i dlodi.
“Byddaf i’n sefyll dros economi, swyddi a phobol Gorllewin Casnewydd.”