Daeth cadarnhad fod Plaid Cymru’n gwerthu eu cartref yng nghanol tref Llanelli.
Dywed llefarydd y bydd yr arian o werthu Tŷ Bres yn aros o fewn yr etholaeth, a’r bwriad yw i’r arian fynd tuag at ymgyrch etholiadau’r Cynulliad yn 2021, ynghyd ag ymgyrchoedd eraill.
Cafodd Tŷ Bres ei brynu gan griw o aelodau’r Blaid yn Llanelli 30 mlynedd yn ôl, ac mae nifer o aelodau eraill wedi bod yn talu am gynnal a chadw’r adeilad ers hynny.
Does dim pris wedi ei gadarnhau.
Helynt yn Llanelli
Mae’r Blaid yn y dref wedi profi cyfnod anodd dros y blynyddoedd diwethaf, yn dilyn helynt dewis Mari Arthur yn ymgeisydd yn etholiad 2017, er nad oedd hi’n ddewis cyntaf y blaid yn lleol.
Aeth hi yn ei blaen i sicrhau’r nifer lleiaf o bleidleisiau ers chwarter canrif i’r Blaid yn Llanelli, gan ddod yn drydydd y tu ôl i’r Ceidwadwyr.
Roedd Leanne Wood, arweinydd y Blaid ar y pryd, yn mynnu nad oedd hi wedi cyfarfod â Mari Arthur – datganiad a gafodd ei wrthddweud gan Alun Ffred Jones, cadeirydd y Blaid, oedd yn dweud ei bod hi’n “ymgeisydd da” yn ôl Leanne Wood.
Roedd hi hefyd yn dadlau bod y blaid yn lleol wedi torri’r rheolau gan nad oedd y dewis lleol yn ymddangos ar y rhestr swyddogol o ymgeiswyr.
Roedd Sean Rees ar restr y Blaid, ond nid ar gyfer Llanelli. Yn hytrach, y disgwyl oedd y byddai’n sefyll yn Abertawe neu Benrhyn Gŵyr.
Fe ddaeth i’r amlwg wedyn nad oedd Mari Arthur chwaith wedi bod yn aelod o’r Blaid yn ddigon hir i sefyll, a bod nifer wedi ymaelodi â’r Blaid yn unswydd er mwyn pleidleisio drosti.
Cafodd cyfres o ymchwiliadau answyddogol eu cynnal, gyda nifer o aelodau’n cael eu gwahardd. Ond fe fu’r Blaid yn gwrthod cynnal ymchwiliad swyddogol. Yn y pen draw, ymddiswyddodd 40 o aelodau lleol.
Yr etholiad diweddaraf
Y gred yw fod yr arian wedi mynd at ymgyrch etholiadol Mari Arthur, ond mae’n ymddangos bellach nad yw hi’n barod i sefyll fel ymgeisydd, a’r disgwyl yw mai Abi Thomas a Helen Mary Jones fydd yn brwydro i fod yn ymgeisydd.
Dydy hi ddim yn glir eto a fydd Sean Rees hefyd yn cyflwyno’i enw.
Mae’n debyg fod y Blaid yn gobeithio y gall Helen Mary Jones, cyn-Aelod Cynulliad y Blaid yn Llanelli, uno’r gangen unwaith eto, ond mae hi wedi colli nifer o’i hen dîm ymgyrchu ymhlith y rhai a ymddiswyddodd.
Dydi hi ddim yn glir eto ymhle fydd pencadlys y gangen yn y dref yn dilyn gwerthu Tŷ Bres.