Mae damwain ffordd wedi cau priffordd yn Eryri, wrth i’r Ambiwlans Awyr gael ei galw i ymateb, ynghyd â’r heddlu.

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn annog gyrwyr i gadw draw o’r ardal o gwmpas Blaen Cae Isaf, ar yr A4244 ger Deiniolen, lle mae lori a char wedi bod mewn gwrthdrawiad, ac y mae “pobol wedi’u hanafu”, yn ôl y llu.

Mae’r ffordd wedi’i chau er mwyn caniatau i’r gwasanaethau brys ddelio â’r sefyllfa.